Discograffi
 

Elin Fflur ~ Ysbryd Efnisien [7 Awst 2006]
Sain SCD2497

Traciau:
1. Ysbryd Efnisien
2. Aros Eiliad
3. Meillionen

Mae gyrfa ELIN FFLUR yn mynd o nerth i nerth, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe eleni mi fydd Elin yn rhyddhau ei EP newydd ‘Ysbryd Efnisien’. Tair cân sydd ar yr EP, dwy gân wreiddiol a fersiwn Elin o’r gân ‘Meillionen’ gan y Big Leaves.

Mae tipyn o hanes i’r EP yn ôl Elin; ‘Tua blwyddyn yn ôl mi wnes i arwyddo cytundeb rheoli gyda David Aspden, sef cyn-reolwr Bonnie Tyler am 20 mlynedd. Nes i gyfarfod o mewn stiwdio yn Llundain pan ges i wahoddiad i ganu gyda grwp o’r enw ITSO music, daeth dim byd o’r grwp ond nes i gadw mewn cysylltiad gyda David. Mae’r flwyddyn diwethaf ‘ma wedi bod yn wych, dwi ‘di bod yn ffodus i gydweithio gyda nifer o bobl dalentog iawn sy’ wedi galluogi fi i roi swn lot fwy aeddfed i’r hyn dwi’n cyfansoddi.’

Y gobaith yw rhyddhau albwm Gymraeg newydd yn gynnar yn 2007 a pharhau i weithio ar ddeunydd ar gyfer albwm Saesneg. Mae Elin yn benderfynol o barhau gyda’i gyrfa yng Nghymru; ‘dwi’n teimlo bod artistiaid fel Gruff Rhys ac Euros Childs wedi profi bod modd gwneud y ddau, ac mae casgliadau fel Welsh Rare Beat hefyd yn cyflwyno pobl newydd i gerddoriaeth Gymraeg.’

Bydd Elin yn lansio’r EP newydd yng nghlwb Barons, Abertawe nos Sadwrn y 5ed o Awst (noson Cymdeithas yr Iaith gyda Dafydd Iwan ac Ar Log) ac yn Maes-B nos Fercher Awst y 9fed (gyda Meinir Gwilym a Daniel Lloyd a Mr Pinc). Ar ôl derbyniad gwresog y Faenol yn 2004 bydd Elin yn ail-droedio’r llwyfan yn noson Tân y Ddraig, nos Lun yr 28ain o Awst – noson mae Elin yn edrych ymlaen yn fawr ati.


Mae'r CD ar gael nawr o Na-Nôg, ac hefyd i'w lawrlwytho o iTunes:

» cliciwch yma i brynu'r CD o siop Na-Nôg
» cliciwch yma i lawrlwytho'r traciau o iTunes

Os nad oes gennych chi iTunes yn barod ar eich cyfrifiadur, mae'n bosib lawrlwytho'r rhaglen drwy glicio yma.


« nôl i discograffi

 

 

Mae Elin Fflur yn un o artistiaid Sain
Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd LL54 5TG ~ Ffôn +44 (0) 1286 831.111 - Ffacs + 44 (0) 1286 831.497

miwsig@sainwales.com - www.sainwales.com
Gwefan: © eurigroberts.com 2006